Main Content

Llunio taith diagnosis dementia - bore

04 May 2023 — 09:00 - 12:30 / 04 Mai 2023 — 09:00 - 12:30

04 May 2023 — 09:00 - 12:30 / 04 Mai 2023 — 09:00 - 12:30
Status: Ended / Statws: Wedi gorffen
  • Ydych chi'n byw gyda dementia?
    Ydych chi'n gofalu am, neu'n aelod o deulu rhywun â dementia?
    Ydych chi'n gweithio mewn gwasanaethau sy'n cefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt?
    Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella gofal dementia?

Ystafell Hydra Minerva, Adeilad Elaine Morgan ar Gampws Glyn-taf Isaf, CF37 4BD

Os mai ‘ie’ yw’r ateb i unrhyw un o’r rhain, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn profiad trochi i helpu i lunio dyfodol gofal a chymorth dementia.

Llunio taith diagnosis

Mae profiad pawb o ddiagnosis yn wahanol, ond rydym am ddeall sut y gallwn wneud y daith hon yn well i'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.

P’un a ydych chi’n byw gyda dementia, yn gofalu am rywun annwyl neu’n gweithio yn y gwasanaethau dementia, mae teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch, eich bod yn cael eich clywed ac yn cael eich gwerthfawrogi yn hanfodol.

Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i lunio sut olwg sydd ar wasanaethau yn y dyfodol - ond i wneud hyn, mae angen i ni gael dealltwriaeth gyffredin o'r profiadau y mae pobl yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn profiad a fydd yn efelychu senario bywyd go iawn y gallai rhywun fod yn ei wynebu pan fyddant yn ceisio diagnosis.

Wedi’i leoli mewn canolfan efelychu ym Mhrifysgol De Cymru, bydd y profiad yn dod â phobl â phrofiadau go iawn, a gweithwyr proffesiynol ynghyd i edrych ar y senario hwn mewn amser real, a datblygu syniadau ar gyfer gwella, ynghyd.

Gall y profiad gynnwys fideos, e-byst, a lleisiau pobl.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael gweithgaredd i weithio arno sy'n gysylltiedig â cham o'r daith diagnosis. Byddant yn gweithio ar y broblem a'r atebion gyda'i gilydd.

Drwy wneud hyn, rydym yn gobeithio creu taith well i’r rhai sy’n edrych am ddiagnosis, gan gynnwys cael mynediad at y gofal a’r cymorth cywir cyn ac ar ôl hynny.

Gwyliwch y ffilm isod!

Event Details / Manylion y Digwyddiad

When / Pryd:

04 May 2023 — 09:00 - 12:30 / 04 Mai 2023 — 09:00 - 12:30

Status / Statws:

Ended / Wedi gorffen

Location / Lleoliad:

Adeilad Elaine Morgan ar Gampws Glyn-taf Isaf

Organised By / Trefnwyd Gan:

CTM Regional Partnership Board

Share / Rhannu:

;