 (4).png)
Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen ar waelod y dudalen hon os gwelwch yn dda. Nodwch y byddwch yn cofrestru ar gyfer pob un o’r pedair sesiwn.
Gweithdy 1: Sgyrsiau Ystyrlon (7 Chwefror)
Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n archwilio pwysigrwydd cael sgyrsiau ystyrlon ac yn edrych ar iaith a chwalu jargon, a chefnogi pobl cyn, yn ystod ac ar ôl sgwrs.
Gweithdy 2: Adeiladu Ymddiriedaeth (14 Chwefror)
Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n edrych ar thema ymddiriedaeth, ac adeiladu perthynas dda, gynaliadwy â’r bobl y byddwn ni’n ymgysylltu â nhw.
Gweithdy 3: Ysbrydoli gweithredu cadarnhaol (28 Chwefror)
Yn y gweithdy ar lein hwn, byddwn ni’n archwilio pwysigrwydd ysbrydoli gweithredu cadarnhaol gyda’n gilydd, gan gynnwys gweithio gyda phobl yn ein cymuned i greu newidiadau cadarnhaol.
Gweithdy 4: Cau’r ddolen (7 Mawrth)
Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n trafod pwysigrwydd adborth a pheri bod y bobl a gymerodd ran yn ein gweithgareddau yn cael gwybod am yr effaith y mae’u cyfraniad yn ei gael ar greu a gwella gwasanaethau
Started 07 February 2023 13:30 — Ended 07 March 2023 15:00 / Dechreuwyd 07 Chwefror 2023 13:30 — Ended / Wedi gorffen 07 Mawrth 2023 15:00
Ended / Wedi gorffen
Online / Ar-lein
CTM Regional Partnership Board