Main Content

Yn Hyn Gyda'n Gilydd - wyneb yn wyneb

Started 21 November 2023 09:30 — Ended 22 November 2023 14:30 / Dechreuwyd 21 Tachwedd 2023 09:30 — Ended / Wedi gorffen 22 Tachwedd 2023 14:30

Started 21 November 2023 09:30 — Ended 22 November 2023 14:30 / Dechreuwyd 21 Tachwedd 2023 09:30 — Ended / Wedi gorffen 22 Tachwedd 2023 14:30
Status: Ended / Statws: Wedi gorffen

21ain a 22 Tachwedd
9.30-14:30
Clwb Pêl-droed Tref Merthyr, Parc Penydarren, Merthyr Tudful, CF47 8RF

 

  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu ffyrdd newydd o ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf?
  • Ydych chi am ddefnyddio eich profiadau eich hun i ddylanwadu ar newid mewn iechyd, gofal cymdeithasol a lles?
  • Ydych chi eisiau cysylltu â phobl eraill sy'n gweithio ac yn byw yng Nghwm Taf Morgannwg sy'n angerddol dros greu newidiadau cadarnhaol

Ymunwch â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg i gael rhaglen hyfforddi deuddydd am ddim.

*Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen ar waelod y dudalen hon os gwelwch yn dda*

Bydd y gweithdai’n ymdrin â:

Diwrnod un (21 Tachwedd)

Sgyrsiau Ystyrlon 

Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n archwilio pwysigrwydd cael sgyrsiau ystyrlon ac yn edrych ar iaith a chwalu jargon, a chefnogi pobl cyn, yn ystod ac ar ôl sgwrs.

Adeiladu Ymddiriedaeth 

Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n edrych ar thema ymddiriedaeth, ac adeiladu perthynas dda, gynaliadwy â’r bobl y byddwn ni’n ymgysylltu â nhw.

Diwrnod dau (22 Tachwedd)

Gweithdy 3: Ysbrydoli gweithredu cadarnhaol 

Yn y gweithdy ar lein hwn, byddwn ni’n archwilio pwysigrwydd ysbrydoli gweithredu cadarnhaol gyda’n gilydd, gan gynnwys gweithio gyda phobl yn ein cymuned i greu newidiadau cadarnhaol.

Gweithdy 4: Cau’r ddolen

Yn y gweithdy hwn byddwn ni’n trafod pwysigrwydd adborth a pheri bod y bobl a gymerodd ran yn ein gweithgareddau yn cael gwybod am yr effaith y mae’u cyfraniad yn ei gael ar greu a gwella gwasanaethau.

Mwy o fanylion

Mae’r lleoliad yn hollol hygyrch.

Nodwch eich gofynion dietegol a hygyrchedd wrth i chi gofrestru.

Event Details / Manylion y Digwyddiad

When / Pryd:

Started 21 November 2023 09:30 — Ended 22 November 2023 14:30 / Dechreuwyd 21 Tachwedd 2023 09:30 — Ended / Wedi gorffen 22 Tachwedd 2023 14:30

Status / Statws:

Ended / Wedi gorffen

Location / Lleoliad:

Merthyr Tydfil

Organised By / Trefnwyd Gan:

CTM Regional Partnership Board

Share / Rhannu:

;