Main Content

Creu Cwm Taf Morgannwg cyfeillgar i niwroamrywiaeth

20 October 2023 — 09:00 - 15:00 / 20 Hydref 2023 — 09:00 - 15:00

20 October 2023 — 09:00 - 15:00 / 20 Hydref 2023 — 09:00 - 15:00
Status: Ended / Statws: Wedi gorffen

Creu Cwm Taf Morgannwg sy'n gyfeillgar i niwroamrywiaeth. 

Ymunwch â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg am hacathon i ysbrydoli gweithredu cadarnhaol gyda'n gilydd.

20 Hydref

9.00-15:00

Canolfan Gynadledda, Prifysgol De Cymru, Trefforest, CF37 1DL

• Ydych chi'n niwroamrywiol?

• Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i rywun sy'n niwroamrywiol?

• Ydych chi'n cefnogi neu'n gweithio gyda phobl niwroamrywiol?

Rydym am eich cynnwys chi i greu gwasanaethau niwroamrywiaeth da a chefnogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghwm Taf Morgannwg (Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf).

Ar 20 Hydref, byddwn yn cynnal hac-a-thon i ystyried beth sy'n gweithio'n dda, a pha welliannau sydd angen eu gwneud.

Trwy ddod â phobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol ynghyd, gallwn archwilio'r hyn sy'n bwysig i bobl niwroamrywiol a'u teuluoedd.

Gyda'n gilydd, gallwn edrych ar ffyrdd o gryfhau arfer da, goresgyn heriau a gwella profiadau.

Beth sy'n digwydd yn ystod hacathhon?

Yn ystod y digwyddiad byddwn yn rhannu i dimau bach i glywed profiadau gan bobl sydd wedi bod/yn mynd drwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol. 

Bydd grwpiau'n edrych ar enghreifftiau da a rhwystrau gydag ymarferydd creadigol, ac yn meddwl am syniadau ar gyfer newid cadarnhaol.

Ar ddiwedd y dydd, bydd darn creadigol wedi'i greu i adlewyrchu sgyrsiau ac ysbrydoli gweithredu. 

Bydd y digwyddiad hwn yn lansio rhaglen weithgaredd a fydd yn arwain at welliannau. 

Bydd y rhai sy'n mynychu yn elwa drwy:

• Gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o'r sefyllfa bresennol 

• Archwilio beth sydd angen newid

• Clywed am gyfleoedd yn y dyfodol i lywio gwelliannau ar draws CTM

Event Details / Manylion y Digwyddiad

When / Pryd:

20 October 2023 — 09:00 - 15:00 / 20 Hydref 2023 — 09:00 - 15:00

Status / Statws:

Ended / Wedi gorffen

Location / Lleoliad:

Trefforest

Organised By / Trefnwyd Gan:

CTM Regional Partnership Board

Share / Rhannu:

;