Ydych chi'n byw gyda dementia?
Ydych chi'n gofalu am rywun â dementia?
A hoffech chi fod yn rhan o lunio’r ffordd y mae gofal a chymorth yn edrych ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr a’u teuluoedd?
Efallai eich bod wedi clywed am y gair 'cydgynhyrchu'.
Mae cydgynhyrchu yn golygu bod pobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau yn dod at ei gilydd mewn partneriaeth i wella gwasanaethau.
Rydym am i gydgynhyrchu fod wrth wraidd y ffordd yr ydym yn creu, rhedeg a gwerthuso gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
P’un a ydych yn byw gyda dementia, yn ofalwr, neu’n aelod o deulu rhywun â dementia, hoffem eich gwahodd i sesiwn ar-lein rhad ac am ddim sy’n eich cyflwyno i gydgynhyrchu.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn dysgu mwy am beth yw cydgynhyrchu, a sut mae'n gwerthfawrogi pob un ohonom fel unigolion.
Byddwn yn dysgu sut y gall pob un ohonom, gyda’n gilydd, greu gwasanaethau dementia cryfach a mwy ystyrlon.
24 March 2023 — 10:00 - 12:00 / 24 Mawrth 2023 — 10:00 - 12:00
Ended / Wedi gorffen
Online / Ar-lein
CTM Regional Partnership Board