• Ydych chi'n niwroamrywiol?
• Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i rywun sy'n niwroamrywiol?
• Ydych chi'n cefnogi neu'n gweithio gyda phobl niwroamrywiol?
Rydym am eich cynnwys chi i greu gwasanaethau niwroamrywiaeth da a chefnogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghwm Taf Morgannwg (Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf).
Ar 20 Hydref, byddwn yn cynnal hac-a-thon i ystyried beth sy'n gweithio'n dda, a pha welliannau sydd angen eu gwneud.
Trwy ddod â phobl â phrofiadau byw a gweithwyr proffesiynol ynghyd, gallwn archwilio'r hyn sy'n bwysig i bobl niwroamrywiol a'u teuluoedd.
Gyda'n gilydd, gallwn edrych ar ffyrdd o gryfhau arfer da, goresgyn heriau a gwella profiadau.
Beth sy'n digwydd yn ystod hacathhon?
Yn ystod y digwyddiad byddwn yn rhannu i dimau bach i glywed profiadau gan bobl sydd wedi bod/yn mynd drwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd grwpiau'n edrych ar enghreifftiau da a rhwystrau gydag ymarferydd creadigol, ac yn meddwl am syniadau ar gyfer newid cadarnhaol.
Ar ddiwedd y dydd, bydd darn creadigol wedi'i greu i adlewyrchu sgyrsiau ac ysbrydoli gweithredu.
Bydd y digwyddiad hwn yn lansio rhaglen weithgaredd a fydd yn arwain at welliannau.
Bydd y rhai sy'n mynychu yn elwa drwy:
• Gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o'r sefyllfa bresennol
• Archwilio beth sydd angen newid
• Clywed am gyfleoedd yn y dyfodol i lywio gwelliannau ar draws CTM
20 October 2023 — 09:00 - 15:00 / 20 Hydref 2023 — 09:00 - 15:00
Ended / Wedi gorffen
Trefforest
CTM Regional Partnership Board